Addasu prosiect Dylunio a Thechnoleg i adlewyrchu’r gofynion newidiol o ran gweithio yn y MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Astudiaeth achos
Summary
No summary yet. VIRAT can read this paper and write a plain-language summary of its aim, methods, key findings and limitations.
Summarise with VIRAT Free to try with your Science Catalogs account.Abstract
Mae arweinwyr diwydiant yn nodi’n aml eu bod angen cyflogeion a all feddwl y tu hwnt i’r ffiniau a osodir yn draddodiadol gan bynciau. Mae nifer o wledydd yn cyflwyno rhyw fath o ddysgu rhyngddisgyblaethol a dull cyfannol o gaffael gwybodaeth er mwyn ceisio cynnig mantais i bobl ifanc yn y farchnad swyddi ddeinamig a hynod gystadleuol sydd ohoni. Yn yr astudiaeth achos hon, sy’n ymwneud â dau ddosbarth Blwyddyn 9 (n=28) mewn un ysgol uwchradd yn Ne Cymru, ymchwiliwyd i’r modd y mae integreiddio cysylltiadau rhyngddisgyblaethol mewn addysg Dylunio a Thechnoleg yn cyfoethogi dealltwriaeth gyfannol y dysgwyr ac yn gwella datrysiadau cyd-destunol. Yng nghyd-destun gofynion newydd Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Cwricwlwm i Gymru a’i ffocws ar ddysgu rhyngddisgyblaethol, aethpwyd ati i archwilio’n feirniadol addasu, cyflawni, gwerthuso, a dulliau asesu. Casglwyd data trwy gyfrwng holiaduron a chyfweliadau, a hefyd trwy arsylwi ar allbwn dysgwyr. Dengys y canlyniadau fod cysylltiadau rhyngddisgyblaethol penodol yn gwella ymgysylltiad a dealltwriaeth y dysgwyr ynghyd â’r modd y cymhwysant wybodaeth ar draws pynciau. Mae hyn yn esgor ar oblygiadau mewn perthynas ag addysgu Dylunio a Thechnoleg, a thu hwnt, wrth i addysgwyr yng Nghymru geisio creu cyfleoedd gwirioneddol drawsgwricwlaidd i ddysgwyr.
Fields of Study & Subjects
Science Education and Pedagogy
Interdisciplinary Research and Collaboration
Teacher Education and Leadership Studies
Publication details
- Journal / source
- Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education
- Publication date
- 24 March 2026
- Language
- CY