https://wcpp.org.uk/wp-content/uploads/Adolygiad-tystiolaeth-stigma-tlodi-Chwefror-2026.pdf

Read full text
Authors: Laura Robertson, Nicola Bowman, Lauren Wilks, John H. McKendrick, Stephen Sinclair
Cited by: 1

Abstract

Ein CenhadaethMae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru'n darparu tystiolaeth annibynnol awdurdodol ac arbenigedd i weinidogion, uwch lunwyr polisi ac arweinyddion gwasanaethau cyhoeddus sy'n eu helpu i ganfod ymatebion polisi effeithiol a datrysiadau ymarferol i rai o'r heriau polisi mwyaf sy'n wynebu Cymru.Mae'r Ganolfan wedi gweithio ar ystod eang o heriau polisi ac mae'n canolbwyntio'n fwyaf arbennig ar hyn o bryd ar ei gwaith i ddatblygu meddwl newydd ar lesiant cymunedau, yr amgylchedd a net sero, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau.Mae hi'n gweithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr ac arbenigwyr polisi blaenllaw o bob cwr o'r byd ac mae'n manteisio ar ei gwaith â Llywodraeth Cymru i hybu dealltwriaeth o lunio a gweithredu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.Drwy secondiadau, lleoliadau PhD a'i rhaglen Prentisiaethau Ymchwil, mae'n galluogi ymchwilwyr yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd i gymryd rhan mewn ymchwil polisi berthnasol.Mae'r Ganolfan yn aelod o What Works Network y DU.Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan yn wcpp.org.uk/cy Cyllidwyr CraiddCafodd Prifysgol Caerdydd ei sefydlu yn 1883.Wedi'i lleoli mewn prifddinas lewyrchus, mae Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol, sy'n benderfynol o feithrin perthnasoedd rhyngwladol cryf wrth ddangos ei hymrwymiad i Gymru.Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, sy'n gyfrifol am feysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, addysg, llywodraeth leol, a'r amgylchedd.Mae'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn rhan o UK Research and Innovation, sefydliad newydd sy'n dod â saith cyngor ymchwil y DU, Innovate UK a Research England ynghyd i wneud y mwyaf o gyfraniad pob cyngor a chreu'r amgylchedd gorau i ymchwil ac arloesi ffynnu.

Publication details

Publisher
Wales Centre for Public Policy
Publication date
25 February 2026